2015 Rhif 1013 (Cy. 69)

GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

pensiYNAU, CYMRU

Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i  Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1073 (Cy. 111)) sy’n darparu ar gyfer cynllun digolledu i ddiffoddwyr tân a dibynyddion diffoddwyr tân yng Nghymru (“y Cynllun Digolledu”). Mae’r diwygiadau i’r Cynllun Digolledu, a nodir yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn, yn ganlyniadol ar ddwyn i rym Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (“Cynllun 2015”), a nodir yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (O.S. 2015/622 (Cy. 50)) ar gyfer diffoddwyr tân a gyflogir gan awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072 (Cy. 110)) sy’n nodi Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“Cynllun 2007”).

Mae rhai o’r diwygiadau a wneir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cael effaith o 1 Ebrill 2014 ymlaen. Rhoddir y pŵer i ddarparu bod gorchymyn i gael effaith o ddyddiad cynharach na’r dyddiad y gwneir y gorchymyn gan adran 34(3) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21).

Prif effeithiau’r diwygiadau a wneir i’r Cynllun Digolledu gan Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn yw mewnosod cyfeiriadau at ddarpariaethau perthnasol o Gynllun 2015, er mwyn sicrhau bod darpariaethau’r Cynllun Digolledu yn gymwys i aelodau Cynllun 2015, Cynllun 2007 a Chynllun Pensiwn y Dynion Tân (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i O.S. 1992/129).

Prif effeithiau’r diwygiadau a wneir i Gynllun 2007 gan Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn yw:

(a)     diweddaru darpariaethau a therminoleg o ganlyniad i ddwyn i rym Gynllun 2015;

(b)     gwneud mân ddiwygiadau sy’n egluro cyfeiriadau yn y diffiniadau o aelod gohiriedig arbennig, amodau cymhwyster arbennig, aelod-ddiffoddwr tân arbennig ac aelod-bensiynwr arbennig;

(c)     egluro darpariaethau sy’n ymwneud â thalu llog;

(d)     estyn yr amser sydd ar gael i awdurdodau tân ac achub i gwblhau’r ymarferiad opsiynau ar gyfer y ‘cynllun addasedig’ hyd at 2 fis fan hwyaf. Diwygiwyd Cynllun 2007 yn Rhagfyr 2014 er mwyn cyflwyno darpariaethau a oedd yn galluogi unigolion, a gyflogid fel diffoddwyr tân wrth gefn yn ystod y cyfnod 1 Gorffennaf 2000 i 5 Ebrill 2006, i brynu buddion pensiwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth honno (“y Cynllun Addasedig”). Yr oedd gan awdurdodau tân ac achub hyd at 31 Rhagfyr 2015 i gynnal a chwblhau ymarferiad opsiynau er mwyn adnabod yr holl gyflogeion blaenorol a phresennol a oedd â hawl i ymuno â’r Cynllun Addasedig. Mae’r darpariaethau’n estyn y cyfnod hwnnw o amser am 2 fis;

(e)     diwygio’r tabl ffactorau cymudo a nodir yn Atodiad ZA i adlewyrchu ffactorau cymudo fel ar 31 Mawrth 2014;

(f)      uwchraddio’r bandiau cyfraniadau o 1% y flwyddyn yn flynyddol tan 1 Ebrill 2018. Mae Atodiad A1 i Gynllun 2007 yn nodi cyfraddau’r cyfraniadau sy’n daladwy gan yr aelodau, a benderfynir drwy gyfeirio at y band tâl pensiynadwy cymwys. Mae Atodiad AB1 yn nodi cyfraddau’r cyfraniadau ar gyfer aelodau arbennig. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r ddau dabl, gan ddarparu codiadau blynyddol o 1% yn y bandiau tâl hyd at 2018.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy alw 0300 062 8221.

 

2015 Rhif 1013 (Cy. 69)

GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

pensiYNAU, CYMRU

Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed                               30 Mawrth 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       31 Mawrth 2015

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004([1]).

Cyn gwneud y Gorchymyn hwn, ac yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyfryw bersonau a ystyrid ganddynt yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2015.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Mawrth 2015.

(3) Daw’r diwygiadau a wneir gan y darpariaethau canlynol i rym ar 1 Ebrill 2015—

(a)     erthygl 2; a

(b)     paragraffau 5 a 6 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn ac erthygl 3 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny.

(4) Mae’r diwygiadau a wneir gan baragraffau 1, 2(1) a (3), 3(1) a (2) a 4 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn, a chan erthygl 3 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny, yn cael effaith o 1 Ebrill 2014 ymlaen([2]).

Diwygio Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2. Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007([3]) wedi ei diwygio yn unol ag Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

3. Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007([4]) wedi ei diwygio yn unol ag Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.

 

 

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

 

30 Mawrth 2015

                    ATODLEN 1         Erthygl 2

Diwygio Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygio Rhan 1 (darpariaethau cyffredinol)

1.(1)(1) Mae Rhan 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 2(1) (dehongli)—

(a)     yn y mannau priodol, mewnosoder—

“the 2015 Regulations” means the Firefighters’ Pension Scheme (Wales) Regulations 2015([5]);;

““the 2015 Scheme” means the Firefighters’ Pension Scheme 2015 set out in the 2015 Regulations;;

“active member of the 2015 Scheme” has the meaning given in regulation 28 (active membership) of the 2015 Regulations;”;

““active member’s account” means the account established under regulation 40 (establishment of active member’s account) of the 2015 Regulations;;

“eligible child’s pension” has the meaning given in regulation 91 (eligible child’s pension) of the 2015 Regulations;”;

““final pay” has the meaning given in regulation 102 (meaning of “final pay”) of the 2015 Regulations;;

“member of the 2015 Scheme” has the same meaning as “member” in regulation 3 (interpretation) of the 2015 Regulations;;

“scheme employment” has the meaning given in regulation 15 (scheme employment) of the 2015 Regulations;;

(b)     yn lle’r diffiniad o “normal pension age” rhodder—

“normal pension age” in relation to employees of a fire and rescue authority appointed on terms under which they are or may be required to engage in firefighting—

(a)   in relation to the 1992 Scheme, means 55;

(b)  in relation to the 2007 Scheme, means 60;

(c)   in relation to the 2015 Scheme, means 60([6]);;

(c)     yn y diffiniad o “pensionable pay”, yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c) in relation to a person who is a member of the 2015 Scheme, shall be construed in accordance with regulation 26 (pensionable pay) of the 2015 Regulations;

(d)  in the case of a person who is not a member of any of these schemes, shall be construed in accordance with rule 11 of this Part;;

(d)     yn y diffiniad o “pensionable service”, mewnosoder ar y diwedd—

(c) in relation to the 2015 Scheme, means the continuous period of pensionable service, in relation to an active member’s account for the scheme employment in respect of which the award under this scheme is payable and any of the following types of service that have been added to, or transferred to, that account—

                       (i)  if applicable, any periods of pensionable service in relation to the 1992 Scheme or the 2007 Scheme that relate to the person’s employment which is the same as, or most similar to, the employment in respect of which the award is payable;

                      (ii)  if applicable, any periods of pensionable service relating to any transfer value payments accepted under Part 10 (transfers) of the 2015 Regulations in respect of the person’s accrued rights under another occupational pension scheme;

                     (iii)  if applicable, any periods of service relating to any pension account entries transferred in accordance with regulation 158 (transfer of pension account entries) of the 2015 Regulations; and

                     (iv)  if applicable, any periods of service relating to an added pension account established under regulation 47 (establishment of added pension account) of the 2015 Regulations relating to the member’s scheme employment in respect of which the award is payable, such periods of service are to be calculated in accordance with such guidance as is provided for the purpose by the Government Actuary;;

(e)     yn lle’r diffiniad o “relevant service” rhodder—

“relevant service”, except in rule 1 of Part 7 (servicemen) and rule 1 of Part 7A (reservists), means service which either was, or would have been, reckonable as pensionable service but for—

(a)   an election under rule G3 of the 1992 Scheme;

(b)  an election under rule 5 of Part 2 of the 2007 Scheme;

(c)   the exercise of an option not to become an active member of the 2015 Scheme in accordance with Chapter 2 (pensionable service) of Part 3 of the 2015 Regulations;

(d)  a failure to elect under—

                       (i)  rule G2A([7]) of the 1992 Scheme;

                      (ii)  rule 4 of Part 11 of the 2007 Scheme; or

                     (iii)  regulation 122(3) (contributions during child-related leave) of the 2015 Regulations; or

(e)   a failure to exercise an option to become an active member of the 2015 Scheme in accordance with regulation 21 (opting into this scheme) of the 2015 Regulations;.

(3) Yn rheol 11(1) (penderfynu’r tâl pensiynadwy mewn achosion penodol)—

(a)     ar ôl y geiriau “the 2007 Scheme”, yn y man lle y maent yn digwydd gyntaf, mewnosoder “or the 2015 Scheme”;

(b)     yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c) regulation 26 of the 2015 Regulations in the case of a person who—

                       (i)  exercised an option not to become an active member of the 2015 Scheme in accordance with Chapter 2 of Part 3 of the 2015 Regulations; or

                      (ii)  did not exercise an option to become an active member of the 2015 Scheme in accordance with regulation 21 of the 2015 Regulations;

(d)  rule 1 of Part 11 of the 2007 Scheme, where an election had been made at different times under the 1992 Scheme and the 2007 Scheme;

(e)   except where sub-paragraph (d) applies, regulation 26 of the 2015 Regulations, in the case of a person who had at different times, in relation to all of the schemes (namely, the 1992 Scheme, the 2007 Scheme and the 2015 Scheme), or a combination of any two of them—

                       (i)  made an election referred to in sub-paragraph (a) or sub–paragraph (b); or

                      (ii)  exercised or not exercised an option referred to in sub- paragraph (c),

as the case may be.;

(c)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Where, in accordance with paragraph (1), the definition of pensionable pay is to be construed in the case of a person in accordance with the 2015 Scheme, the award must be calculated on the basis of the pay which would have been the final pay if the person had not, in respect of sub-paragraph (c)(i), exercised an option, or in respect of sub-paragraph (c)(ii) failed to exercise an option.

Diwygio Rhan 2 (dyfarndaliadau am anaf a digolledu mewn perthynas â dyletswydd)

2.(1)(1) Mae Rhan 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 3 (digolledu am farwolaeth neu analluogrwydd parhaol tra ar ddyletswydd), ym mharagraff (8), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or the 2015 Scheme”.

(3) Yn rheol 4 (cymudo pensiynau digolledu bach), ym mharagraff (1)(b), ar ôl “the 2007 Scheme (pension credit member’s entitlement to pension)” mewnosoder “or regulation 114 of the 2015 Regulations (entitlement to pension credit members’ pension)”.

Diwygio Rhan 3 (dyfarndaliadau yn dilyn marwolaeth: priodau a phartneriaid sifil)

3.(1)(1) Mae Rhan 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (dyfarndaliad arbennig ar gyfer priod neu bartner sifil)—

(a)     ym mharagraff (3)—

                           (i)    yn lle “or, as the case may be, his final pensionable pay”, ym mhob man lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd, rhodder “or the deceased’s final pensionable pay or the deceased’s final pay, as the case may be”;

                         (ii)    ym mharagraff (3)(a)(ii), ar ôl “the 2007 Scheme (ill health award)” mewnosoder “or regulation 74 of the 2015 Regulations”;

(b)     ym mharagraff (4), yn lle “as the case may be, his final pensionable pay” rhodder “the deceased’s final pensionable pay or the deceased’s final pay, as the case may be”.

(3) Yn rheol 4 (cyfyngiad pan fo priod neu bartner sifil yn byw ar wahân), yn lle paragraff (1A) rhodder—

(1A) Paragraph (1) does not apply to a person—

(a)   who is a member of the 2007 Scheme;

(b)  who first takes up employment with a fire and rescue authority on or after 6 April 2006 and is entitled to be a member of the 2007 Scheme but elects not to pay pension contributions;

(c)   who is a member of the 2015 Scheme; or

(d)  who is eligible to be an active member of the 2015 Scheme and—

                       (i)  exercises an option not to become an active member of that scheme in accordance with Chapter 2 of Part 3 of the 2015 Regulations; or

                      (ii)  does not exercise an option to become an active member of that scheme in accordance with regulation 21 of the 2015 Regulations.

(4) Yn rheol 5 (effaith perthynas newydd), yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Paragraphs (1) and (2) do not apply to a person—

(a)   who is a member of the 2007 Scheme;

(b)  who first takes up employment with a fire and rescue authority on or after 6 April 2006 and is entitled to be a member of the 2007 Scheme, but elects not to pay pension contributions;

(c)   who is a member of the 2015 Scheme; or

(d)  who is eligible to be an active member of the 2015 Scheme and—

                       (i)  exercises an option not to become an active member of that scheme in accordance with Chapter 2 of Part 3 of the 2015 Regulations; or

                      (ii)  does not exercise an option to become an active member of that scheme in accordance with regulation 21 of the 2015 Regulations.

(5) Yn rheol 6 (swm pensiwn goroeswr: achosion arbennig), yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) This rule applies in relation to a person—

(a)   who is a member of the 2007 Scheme on the day on which the person dies;

(b)  in respect of whom an election under rule 5(1) of Part 2 of the 2007 Scheme not to make pension contributions has effect on the day on which the person dies;

(c)   who is a member of the 2015 Scheme on the day on which the person dies; or

(d)  who is eligible to be an active member of the 2015 Scheme and—

                       (i)  has exercised an option not to become an active member of that scheme in accordance with Chapter 2 of Part 3 of the 2015 Regulations which has effect on the day on which the person dies; or

                      (ii)  has not exercised an option to become an active member of that scheme in accordance with regulation 21 of the 2015 Regulations on the day on which the person dies.

Diwygio Rhan 5 (dyfarndaliadau yn dilyn marwolaeth: darpariaethau ychwanegol)

4. Yn Rhan 5, yn rheol 5 (cynyddu pensiynau a lwfansau yn ystod y 13 wythnos gyntaf)—

(a)     ar ddiwedd paragraff (2)(c) mewnosoder—

and

(d)  any eligible child’s pension under the 2015 Regulations,;

(b)     ym mharagraff (5), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or an eligible child’s pension under the 2015 Regulations”; ac

(c)     ym mharagraff (7), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or the 2015 Scheme”.

Diwygio Rhan 7 (aelodau o’r lluoedd arfog)

5. Yn Rhan 7, yn rheol 2 (dyfarndaliadau i aelodau o’r lluoedd arfog), ym mharagraff (3)(b), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or the 2015 Scheme”.

Diwygio Rhan 7A (aelodau o’r lluoedd wrth gefn)

6.(1)(1) Mae Rhan 7A wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (dehongli Rhan 7A), ym mharagraff (1)(a)(ii), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or the 2015 Scheme”.

(3) Yn rheol 2 (dyfarndaliadau i aelodau o’r lluoedd wrth gefn)—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle “has effect” rhodder “and regulation 65 (entitlement to lower tier ill-health pension and higher tier ill-health pension) of the 2015 Regulations have effect”;

(b)     yn lle paragraff (3)(a) rhodder—

(a) pay the reservist, instead of an ill-health pension under rule 2 of Part 3 of the 2007 Scheme or under regulation 65 of the 2015 Regulations, a pension at the rate of one twelfth of the reservist’s final pensionable pay or final pay, as the case may be, and.

(4) Yn rheol 3 (dyfarndaliadau yn dilyn marwolaeth aelodau o’r lluoedd wrth gefn), ar ddiwedd paragraff (2) mewnosoder “or increase any pension or eligible child’s pension payable under Chapter 3 of Part 6 of the 2015 Regulations.”

Diwygio Rhan 8 (achosion arbennig)

7. Yn Rhan 8, yn rheol 2 (dyfarndaliad ar gyfer neu mewn perthynas â diffoddwr tân gwirfoddol)—

(a)     ym mharagraff (1), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or the 2015 Scheme”;

(b)     yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) The following provisions apply in relation to the awards to which a person, by virtue of paragraph (2), may be entitled:

(a)   rules B7 (commutation), B9 (allocation) and B10 (limitation of commuted or allocated portion) of the 1992 Scheme;

(b)  rule 9 (commutation: general) or rule 11 (allocation of pension) of Part 3 of the 2007 Scheme;

(c)   regulation 118 (commutation of part of pension) or Chapter 6 (allocation of part of pension) of Part 5 of the 2015 Regulations.;

(c)     yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Subject to paragraph (4A)—

(a)   a person to whom paragraph (1) applies must be treated for the purposes of rule B3 (ill-health awards) of the 1992 Scheme as having been a regular firefighter falling within the description in paragraph (10) below; and rules B7 (commutation), B9 (allocation), B10 (limitation of commuted or allocated portion), K1 (review of ill-health and certain deferred pensions), K1A (consequences of review) and K3 (reduction in case of default) of the 1992 Scheme apply accordingly in relation to the awards to which the person is thus entitled;

(b)  if a person to whom paragraph (1) applies—

                       (i)  has become a member of the 2007 Scheme, rule 9 or 11 of Part 3 of the 2007 Scheme, rule 1 of Part 9 of that Scheme (review of ill-health pension) and rule 2 of that Part (consequences of review) apply accordingly in relation to the awards to which the person is thus entitled;

                      (ii)  has become a member of the 2015 Scheme, regulation 109 (commutation of part of pension), Chapter 6 (allocation of part of pension) of Part 5, regulation 77 (review of ill-health award or early payment of retirement pension) and regulation 78 (consequences of review) of the 2015 Regulations apply accordingly in relation to the awards to which the person is thus entitled.; a

(d)     ym mharagraff (4A)—

                           (i)    ar ôl y geiriau “the 2007 Scheme”, lle y digwyddant gyntaf, mewnosoder “or the 2015 Scheme”;

                         (ii)    ar ôl y geiriau “the 2007 Scheme (award on ill-health retirement)” mewnosoder “or under regulation 74 (entitlement to lower tier ill-health pension and higher tier ill-health pension) of the 2015 Regulations”.

Diwygio Rhan 9 (adolygu, tynnu’n ôl a fforffedu dyfarndaliadau)

8. Yn Rhan 9 (adolygu, tynnu’n ôl a fforffedu dyfarndaliadau), yn rheol 2 (gostwng dyfarndaliad mewn achos o ddiffyg)—

(a)     ar ôl paragraff (2)(b)(ii) mewnosoder—

                    (iii)  if the person is a member of the 2015 Scheme, their state pension age, or 65 if that is higher([8]),;

(b)     ym mharagraff (3), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or Chapter 7 of Part 4 of the 2015 Regulations”.

Diwygio Rhan 10 (talu dyfarndaliadau a darpariaethau ariannol)

9.(1)(1) Mae Rhan 10 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 3 (atal dyblygu)—

(a)     ym mharagraff (1)(b), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or the 2015 Scheme”;

(b)     ym mharagraff (2)—

                           (i)    yn is-baragraff (a), yn lle “or rule 11 of the 2007 Scheme” rhodder “, rule 11 of Part 3 of the 2007 Scheme or Chapter 6 of Part 5 of the 2015 Regulations”;

                         (ii)    yn is-baragraff (b), ar ôl “2007 Scheme (pension credit member’s entitlement to pension)” mewnosoder “or regulation 114 (entitlement to pension credit members’ pension) of the 2015 Regulations”; a

                       (iii)    yn is-baragraff (c), ar ôl “2007 Scheme (guaranteed minimum pensions)” mewnosoder “or regulation 175 (guaranteed minimum pension) of the 2015 Regulations”;

(c)     ym mharagraff (3), yn lle “as the case may be, rule 4 of Part 14 of the 2007 Scheme” rhodder “rule 4 of Part 14 of the 2007 Scheme, or regulation 17 (service in two or more scheme employments) and regulation 18 (application of Chapter 2 – Pensionable service) of the 2015 Regulations, as the case may be”; a

(d)     ym mharagraff (4)(a), ar y diwedd, mewnosoder—

(m) under regulation 67 or 74 of the 2015 Regulations, a retirement pension or a lower tier ill-health pension or a higher tier ill-health pension, or.

(3) Yn rheol 4 (atal dyblygu: dyfarndaliadau eraill am anaf)—

(a)     ym mharagraff (1), yn y man priodol mewnosoder—

“regulation 74 award” means an entitlement to a lower tier ill-health pension or a higher tier ill-health pension under regulation 74 of the 2015 Regulations;”;

(b)     ym mharagraff (2)(b)(i), ar ôl “a rule 2 award,” mewnosoder “a regulation 74 award,”;

(c)     ym mharagraffau (3) a (4), yn lle “or, as the case may be, the rule 2 award”, ym mhob man lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd, rhodder “or the rule 2 award or the regulation 74 award, as the case may be,”.

(4) Yn rheol 5 (atal dyblygu: dyfarndaliadau eraill i briodau neu blant personau sy’n ddiffoddwyr tân rheolaidd yn ogystal ag wrth gefn), ar ôl paragraff (3)(l) mewnosoder—

(m)  a surviving partner’s pension under regulations 87, 88 or 89 of the 2015 Regulations,

(n)  a surviving partner’s bereavement pension under regulation 90 of the 2015 Regulations,

(o)  an eligible child’s pension under regulations 95, 96 or 97 of the 2015 Regulations,

(p)  an eligible child’s bereavement pension under regulation 101 of the 2015 Regulations,

(q)  a lump sum payable on death under regulations 105 and 106 of the 2015 Regulations.

Diwygio Atodlen 1 (dyfarndaliadau am anaf a digolledu mewn perthynas â dyletswydd)

10.(1)(1) Mae Atodlen 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Rhan 1 (cyfrifo dyfarndaliadau am wasanaeth amser llawn)—

(a)     ar ôl paragraff 1 mewnosoder—

1A.—(1) In the event that an award becomes payable in respect of a qualifying injury sustained in the course of employment in relation to which a person is or is eligible to be an active member in the 2015 Scheme, “relevant service” in the Table means the total of—

(a)   any relevant service in relation to the 2015 Scheme that relates to the person’s scheme employment which is the same as, or most similar to, the scheme employment in respect of which the award is payable; and

(b)  if applicable, any relevant service in relation to the 1992 Scheme or the 2007 Scheme that relates to the person’s employment which is the same as, or most similar to, the employment in respect of which the award is payable.

(2) In the event that an award is payable to a person who is not an active member of the 2015 Scheme, or has elected not to make pension contributions under the 2007 Scheme or the 1992 Scheme, when calculating an award payable under this scheme, the person’s ‘relevant service’ is determined according to the pension scheme the person would have been eligible to be a member of when they sustained the qualifying injury.

(3) In sub-paragraph (2), “eligible to be a member” means a person’s eligibility to be a member of any of the 1992 Scheme, the 2007 Scheme and the 2015 Scheme, pursuant to rule A3 (exclusive application to regular firefighters) of the 1992 Scheme, rule 1 of Part 2 of the 2007 Scheme or regulation 16 of, or Schedule 2 to, the 2015 Regulations, as the case may be.;

(b)     ym mharagraff 1, yn y penawdau yn y Tabl, yn lle “or, as the case may be, final pensionable pay” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd, rhodder “final pensionable pay or final pay, as the case may be”;

(c)     ym mharagraff 2(1), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or regulation 74 of the 2015 Regulations”;

(d)     ym mharagraff 2(2), ar ôl “the 2007 Scheme”—

                           (i)    yn y man lle y mae’r geiriau’n digwydd gyntaf, mewnosoder “or the exercise of an option not to become an active member of the 2015 Scheme in accordance with Chapter 2 of Part 3 of the 2015 Regulations”;

                         (ii)    yn y man lle y mae’r geiriau’n digwydd am yr ail dro, mewnosoder “or regulation 122(3) of the 2015 Regulations or failed to exercise an option to become an active member of the 2015 Scheme in accordance with regulation 21 of the 2015 Regulations”;

(e)     ym mharagraff 2(3)(a), ar ôl “the 2007 Scheme” mewnosoder “or regulation 118 (commutation of part of pension) or Chapter 6 (allocation of part of pension) of Part 5 of the 2015 Regulations”.

(3) Yn Rhan 2 (cyfrifo dyfarndaliadau am wasanaeth rhan-amser)—

(a)     ym mharagraff 2(1), yn lle “or, as the case may be, the final pensionable pay” rhodder “final pensionable pay or final pay, as the case may be”;

(b)     ar ôl paragraff 2(2) mewnosoder—

(3) Where the person is or is eligible to be an active member in the 2015 Scheme, “relevant service” in B, C and D means the total of the service referred to in paragraph 1A(1)(a) and (b) of Part 1 of Schedule 1.

(4) Yn Rhan 3 (cyfrifo dyfarndaliadau am wasanaeth wrth gefn neu wirfoddol), ym mharagraff 1, yn lle “paragraph 1” rhodder “the table in paragraph 1 of Part 1 of this Schedule”.

Diwygio Atodlen 2 (dyfarndaliadau ar gyfer priodau a phartneriaid sifil)

11.(1)(1) Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Rhan 1 (pensiwn arbennig)—

(a)     ym mharagraff 1, yn lle “or, as the case may be, final pensionable pay” rhodder “final pensionable pay or final pay, as the case may be”;

(b)     ym mharagraff 2—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “or, as the case may be, the final pensionable pay” rhodder “, the final pensionable pay or the final pay, as the case may be”;

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Where the person is or is eligible to be an active member in the 2015 Scheme, “relevant service” in B, C and D means the total of the service referred to in paragraph 1A(1)(a) and (b) of Part 1 of Schedule 1.;

(c)     ar ôl paragraff 3(2) mewnosoder—

(3) Where the person is or is eligible to be an active member in the 2015 Scheme, “relevant service” in C means the total of the service referred to in paragraph 1A(1)(a) and (b) of Part 1 of Schedule 1.

(3) Yn Rhan 2 (dyfarndaliad i briod sy’n goroesi o briodas ar ôl ymddeol pan fo’r ymadawedig yn aelod o Gynllun 1992 ond nid yn aelod o Gynllun 2007), ym mharagraff 1(1)(b), ar ôl “2007 Scheme” mewnosoder “or the 2015 Scheme”.

Diwygio Atodlen 3 (dyfarndaliadau yn dilyn marwolaeth: plant)

12. Yn Rhan 1 (lwfans arbennig plentyn) o Atodlen 3—

(a)     ym mharagraff 1, yn lle “or, as the case may be, his final pensionable pay” rhodder “, the deceased’s final pensionable pay or final pay, as the case may be”;

(b)     ym mharagraff 4(2), yn lle “or, as the case may be, the final pensionable pay”, rhodder “, the final pensionable pay or the final pay, as the case may be,”;

(c)     ym mharagraff 5—

                           (i)    daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-baragraff (1);

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(2) Where the person is or is eligible to be an active member in the 2015 Scheme, “relevant service” in C means the total of the service referred to in paragraph 1A(1)(a) and (b) of Part 1 of Schedule 1.

Diwygio Atodlen 4 (dyfarndaliadau yn dilyn marwolaeth: darpariaethau ychwanegol)

13. Yn Rhan 1 (pensiwn arbennig perthynas dibynnol sy’n oedolyn) o Atodlen 4—

(a)     ym mharagraffau 1, 2 a 3, yn lle “or, as the case may be, his final pensionable pay”, ym mhob man lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd, rhodder “, final pensionable pay or final pay, as the case may be”;

(b)     ym mharagraff 4—

                           (i)    ar ôl “final pensionable pay” mewnosoder “or final pay”;

                         (ii)    daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-baragraff (1);

                       (iii)    ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(2) Where the person is or is eligible to be an active member in the 2015 Scheme, “relevant service” in C means the total of the service referred to in paragraph 1A(1)(a) and (b) of Part 1 of Schedule 1.

                    ATODLEN 2         Erthygl 3

Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygio Rhan 1 (enwi a dehongli)

1. Yn Rhan 1, yn rheol 2(1) (dehongli)—

(a)     yn y mannau priodol, mewnosoder—

mae i “aelod cofrestredig dros dro” (“provisionally enrolled member)” yr ystyr a roddir yn rheol 1(11) o Ran 2;;

ystyr “aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn” (“full protection member of this Scheme”) yw person sy’n aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn yn rhinwedd paragraff 9 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

ystyr “aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn” (“tapered protection member of this Scheme”) yw person sy’n aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015([9]) a sefydlodd Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr  Tân  (Cymru) 2015;;

(b)     yn lle’r diffiniad o “cyfnod cyfyngedig” rhodder—

ystyr “cyfnod cyfyngedig” (“limited period”) yw’r cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Gorffennaf 2000 neu, os yw’n ddiweddarach, ar y dyddiad sy’n digwydd cyn 6 Ebrill 2006 pan gyflogwyd y person gyntaf fel diffoddwr tân wrth gefn, ac sy’n diweddu ar—

(a)   y cynharaf o—

                       (i)  y dyddiad yr ymunodd y person hwnnw â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig neu fel aelod safonol mewn cysylltiad â gwasanaeth y gallai’r aelod, fel arall, ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig, a

                      (ii)  y dyddiad, os yw’n gymwys, pan ddaeth cyflogaeth y person fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân rheolaidd i ben;

(b)  yn achos person sy’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod cofrestredig  dros dro ar 31 Mawrth 2015 ac yna, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015—

                       (i)  nad yw’n dod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn neu’n aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, 31 Mawrth 2015,

                      (ii)  sy’n dod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn, y dyddiad y mae’r person hwnnw’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig,

                     (iii)  sy’n dod yn aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, y cynharaf o’r dyddiad y mae’r person yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig a dyddiad cau  diogelwch taprog yr aelod, o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

(c)     yn y diffiniad o “aelod gohiriedig arbennig”, yn lle “1A(5) i (8)” rhodder “1A(6) i (9)”;

(d)     yn y diffiniad o “amodau cymhwyster arbennig”, yn lle “mae i “amodau cymhwyster arbennig” (“special eligibility conditions”) yr ystyr a roddir” rhodder “ystyr “amodau cymhwyster arbennig” (“special eligibility conditions”) yw’r amodau a bennir”;

(e)     yn y diffiniad o “aelod-ddiffoddwr tân arbennig”, yn lle “1A(1) i (4)” rhodder “1A(1) i (5)”;

(f)      yn y diffiniad o “aelod-bensiynwr arbennig”, yn lle “1A(9) i (13)” rhodder “1A(10) i (14)”.

Diwygio Rhan 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol)

2.(1)(1) Mae Rhan 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (aelodaeth o’r cynllun), ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(11) Mae person yn aelod cofrestredig dros dro o’r Cynllun hwn os yw’r person—

(a)   yn bodloni’r amodau yn rheol 6C(2) o Ran 11; a

(b)  nad yw’n gymwys i ddod yn aelod cofrestredig dros dro yn unol â rheol 6C(3) o Ran 11.

(3) Yn rheol 2A(2) (amodau cymhwyster arbennig), ar ôl “(dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd)” mewnosoder “o Ran 3”.

Diwygio Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol)

3.(1)(1) Mae Rhan 11 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 6A (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig)—

(a)     ym mharagraff (2) o’r testun Saesneg, o flaen “which they are” mewnosoder “to”; a

(b)     ar ôl paragraff (13) mewnosoder—

(14) Mewn cysylltiad â’r cyfraniadau pensiwn y cyfeirir atynt ym mharagraff (12), mae llog yn daladwy mewn cysylltiad â chyfraniadau sy’n daladwy o 6 Ebrill 2006 ymlaen, a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, tan y dyddiad y mae’r person yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod safonol (“y cyfnod safonol tybiedig”).

(15) Mae llog yn daladwy mewn cysylltiad  â’r cyfraniad pensiwn sy’n ofynnol i’w dalu mewn cysylltiad â gwasanaeth aelod arbennig yn ystod y cyfnod safonol tybiedig, fel a ganlyn—

(a)   at ddibenion cyfrifo’r llog o dan y paragraff hwn, rhaid rhagdybio mewn cysylltiad â’r cyfnod safonol tybiedig fod cyfraniadau pensiwn yn daladwy  drwy gyfraniadau cyfnodol misol, o’r dyddiad y byddai cyfraniad misol safonol cyntaf yr aelod wedi ei dalu;

(b)  mae llog yn dechrau cronni o’r dyddiad y byddai’r cyfraniad misol cyntaf wedi ei dalu yn unol ag is-baragraff (a) ac mae’n peidio â chronni ar y dyddiad y mae’r cyfraniad ar ffurf cyfandaliad neu’r cyfraniad cyfnodol terfynol yn cael ei dalu yn unol â pharagraffau (2), (4), (5) ac (8) o’r rheol hon;

(c)   mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod safonol tybiedig a delir drwy gyfraniad ar ffurf cyfandaliad, rhaid cyfrifo’r llog drwy gymhwyso’r gyfradd llog gynt i’r cyfraniad sy’n daladwy yn unol â rheol 3(1) o Ran 11, gyda’r adlog misol rhwng y mis y byddai pob cyfraniad wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a), hyd y dyddiad cyfrifo;

(ch) mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod safonol tybiedig a delir drwy gyfraniad cyfnodol—

                       (i)  rhaid cyfrifo’r llog yn yr un modd ag ar gyfer cyfraniad ar ffurf cyfandaliad o dan is-baragraff (c);

                      (ii)  rhaid addasu swm y llog sy’n daladwy wedyn yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun er mwyn caniatáu ar gyfer llog ar gyfradd llog y dyfodol, mewn perthynas â’r cyfnod o’r dyddiad cyfrifo hyd at y dyddiad y telir y cyfraniad, er mwyn diwallu atebolrwydd dros gyfnod o ddeng mlynedd;

(d)  at ddibenion y rheol hon—

ystyr “cyfradd llog y dyfodol” (“future interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth ag 1.5% plws mynegai arenillion Gilt 10 mlynedd y DU Actiwariaid FTSE llai cyfartaledd  mynegai Gilt 5 i 15 mlynedd cysylltiedig â Mynegai y DU Actiwiariaid FTSE gyda chyfraddau chwyddiant tybiedig o 0% a 5%;

ystyr “cyfradd llog gynt” (“past interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â’r llog a oedd ar gael ar y dyroddiad diweddaraf o’r tystysgrifau cynilo llog sefydlog pum mlynedd gan y Cynilion a Buddsoddiadau  Cenedlaethol, sydd ar gael ar y 15fed diwrnod o bob mis, a fyddai wedi bod yn gymwys i’r cyfnod dan sylw;

ystyr “cyfraniadau pensiwn cyfnod safonol tybiedig” (“assumed standard period pension contributions”) yw’r cyfraniad pensiwn sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth aelod arbennig yn ystod y cyfnod safonol tybiedig o dan reol 6A o Ran 11;

ystyr “dyddiad cyfrifo” (“calculation date”) yw—

(a)   yn achos cyfraniad ar ffurf cyfandaliad, y dyddiad y telir y cyfandaliad; a

(b)  yn achos talu’r cyfraniad pensiwn cyfnod safonol tybiedig drwy gyfraniad cyfnodol, y dyddiad pan ymunodd yr aelod â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig.

(3) Yn rheol 6B (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig: darpariaeth atodol), ar ddiwedd paragraff (12) mewnosoder “ac eithrio pan wneir dewisiad gan aelod cofrestredig dros dro,  ac mewn achos o’r fath ni chaiff y dewisiad gymryd effaith ar ôl 29 Chwefror 2016”.

(4) Ar ôl rheol 6B mewnosoder—

Dewis prynu gwasanaeth: cofrestru dros dro

 6C.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff (2) o’r rheol hon yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod cofrestredig dros dro ar 31 Mawrth 2015.

(2) Yr amodau yw—

(a)   ar neu cyn 31 Mawrth 2015—

                       (i)  bod y person wedi ei hysbysu gan yr awdurdod y gallai fod hawl ganddo i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig, yn unol â rheol 5A(4) o’r Rhan hon; neu

                      (ii)  bod yr awdurdod, y cyfeirir ato yn rheol 5A(4) o’r Rhan hon, wedi cael gan y person gais am ddatganiad o wasanaeth, yn unol â rheol 5A(5) o’r Rhan hon.

(3) Ni chaiff person ddod yn aelod cofrestredig dros dro os yw’r person, ar neu cyn 31 Mawrth 2015—

(a)   wedi dod yn aelod arbennig o’r Cynllun hwn;

(b)  wedi hysbysu’r awdurdod nad yw’n dymuno gwneud dewisiad i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig; neu

(c)   wedi ei hysbysu gan yr awdurdod nad yw bellach yn gymwys i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig.

(4) Ar neu cyn 31 Mai 2015 rhaid i’r awdurdod roi i aelod cofrestredig dros dro hysbysiad fel y cyfeirir ato o dan reol 5A(13) o’r Rhan hon, onid yw’r awdurdod eisoes wedi darparu hysbysiad o’r fath i’r person hwnnw.

(5) Yn ddarostyngedig i reol 6B(12) o’r Rhan hon—

(a)   os yw aelod cofrestredig dros dro yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod o’i ddewisiad i dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o’r Rhan hon, bydd y dewisiad yn cymryd effaith ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael yr hysbysiad o’r dewisiad, a bydd y person yn peidio â bod yn aelod cofrestredig dros dro o’r Cynllun hwn ac yn dod yn aelod arbennig o’r Cynllun hwn;

(b)  os nad yw aelod cofrestredig dros dro yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod ar neu cyn 29 Chwefror 2016 o’i ddewisiad i dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o’r Rhan hon, mae’r person yn peidio â bod yn aelod cofrestredig dros dro o’r Cynllun hwn.


Diwygio Atodiad ZA (cyfran gymudedig: aelodau arbennig)

4. Yn Atodiad ZA, yn lle’r Tabl, rhodder—

Blyny-ddoedd

Oedran mewn blynyddoedd a misoedd cyflawn ar ddiwrnod cychwyn y pensiwn

 

0

1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

 

Islaw

50

23.4

50

22.4

22.3

22.3

22.3

22.3

22.2

22.2

22.2

22.2

22.1

22.1

22.1

 

51

22.1

22.0

22.0

22.0

22.0

21.9

21.9

21.9

21.9

21.8

21.8

21.8

 

52

21.8

21.7

21.7

21.7

21.7

21.6

21.6

21.6

21.6

21.5

21.5

21.5

 

53

21.5

21.4

21.4

21.4

21.3

21.3

21.3

21.3

21.2

21.2

21.2

21.1

 

54

21.1

21.1

21.1

21.0

21.0

21.0

21.0

20.9

20.9

20.9

20.9

20.8

 

55

20.8

20.8

20.8

20.7

20.7

20.7

20.6

20.6

20.6

20.5

20.5

20.5

 

56

20.4

20.4

20.4

20.4

20.3

20.3

20.3

20.2

20.2

20.2

20.1

20.1

 

57

20.1

20.0

20.0

20.0

19.9

19.9

19.9

19.8

19.8

19.8

19.7

19.7

 

58

19.7

19.6

19.6

19.6

19.5

19.5

19.5

19.4

19.4

19.4

19.3

19.3

 

59

19.3

19.2

19.2

19.2

19.1

19.1

19.1

19.0

19.0

19.0

18.9

18.9

 

60

18.9

18.8

18.8

18.7

18.7

18.7

18.6

18.6

18.6

18.5

18.5

18.5

 

61

18.4

18.4

18.4

18.3

18.3

18.2

18.2

18.2

18.1

18.1

18.1

18.0

 

62

18.0

18.0

17.9

17.9

17.8

17.8

17.8

17.7

17.7

17.7

17.6

17.6

 

63

17.5

17.5

17.5

17.4

17.4

17.4

17.3

17.3

17.2

17.2

17.2

17.1

 

64

17.1

17.1

17.0

17.0

16.9

16.9

16.9

16.8

16.8

16.8

16.7

16.7

 

65

16.6.

 

Diwygio Atodiad A1 (cyfraniadau pensiwn)

5. Yn lle’r Tabl ym mharagraff 5 o Atodiad A1 rhodder y Tabl canlynol—

 

Tâl pensiynadwy

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2016 (canran o’r tâl pensiynadwy)

Hyd at a chan gynnwys £15,150

 

8.5%

Dros £15,150 a hyd at a chan gynnwys £21,210

9.4%

Dros £21,210 a hyd at a chan gynnwys £30,300

10.4%

Dros £30,300 a hyd at a chan gynnwys £40,400

10.9%

Dros £40,400 a hyd at a chan gynnwys £50,500

11.2%

Dros £50,500 a hyd at a chan gynnwys £60,600

11.3%

Dros £60,600 a hyd at a chan gynnwys £101,000

11.7%

Dros £101,000 a hyd at a chan gynnwys £121,200

12.1%

Dros £121,200

 

12.5%

 


 

Tâl pensiynadwy

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017 (canran o’r tâl pensiynadwy)

Hyd at a chan gynnwys £15,301

 

8.5%

Dros £15,301 a hyd at a chan gynnwys £21,422

9.4%

Dros £21,422 a hyd at a chan gynnwys £30,603

10.4%

Dros £30,603 a hyd at a chan gynnwys £40,804

10.9%

Dros £40,804 a hyd at a chan gynnwys £51,005

11.2%

Dros £51,005 a hyd at a chan gynnwys £61,206

11.3%

Dros £61,206 a hyd at a chan gynnwys £102,010

11.7%

Dros £102,010 a hyd at a chan gynnwys £122,412

12.1%

Dros £122,412

 

12.5%

 

Tâl pensiynadwy

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 (canran o’r tâl pensiynadwy)

Hyd at a chan gynnwys £15,454

 

8.5%

Dros £15,454 a hyd at a chan gynnwys £21,636

9.4%

Dros £21,636 a hyd at a chan gynnwys £30,909

10.4%

Dros £30,909 a hyd at a chan gynnwys £41,212

10.9%

Dros £41,212 a hyd at a chan gynnwys £51,515

11.2%

Dros £51,515 a hyd at a chan gynnwys £61,818

11.3%

Dros £61,818 a hyd at a chan gynnwys £103,030

11.7%

Dros £103,030 a hyd at a chan gynnwys £123,636

12.1%

Dros £123,636

 

12.5%

 

Tâl pensiynadwy

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2018 (canran o’r tâl pensiynadwy)

Hyd at a chan gynnwys £15,609

 

8.5%

Dros £15,609 a hyd at a chan gynnwys £21,852

9.4%

Dros £21,852 a hyd at a chan gynnwys £31,218

10.4%

Dros £31,218 a hyd at a chan gynnwys £41,624

10.9%

Dros £41,624 a hyd at a chan gynnwys £52,030

11.2%

Dros £52,030 a hyd at a chan gynnwys £62,436

11.3%

Dros £62,436 a hyd at a chan gynnwys £104,060

11.7%

Dros £104,060 a hyd at a chan gynnwys £124,872

12.1%

Dros £124,872

 

12.5%”.

Diwygio Atodiad AB1 (cyfraniadau pensiwn ar gyfer aelodau arbennig)

6.(1)(1) Yn y Tabl ym mharagraff 6 o Atodiad AB1, ym mhennawd y bedwaredd golofn, ar ôl “2014” mewnosoder “i 31 Mawrth 2015”.

(2) Ar ôl y Tabl ym mharagraff 6 o Atodiad AB1 mewnosoder—

 

Tâl pensiynadwy

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2016 (canran o’r tâl pensiynadwy)

Hyd at a chan gynnwys £15,150

 

11.0%

Dros £15,150 a hyd at a chan gynnwys £21,210

12.2%

Dros £21,210 a hyd at a chan gynnwys £30,300

14.2%

Dros £30,300 a hyd at a chan gynnwys £40,400

14.7%

Dros £40,400 a hyd at a chan gynnwys £50,500

15.2%

Dros £50,500 a hyd at a chan gynnwys £60,600

15.5%

Dros £60,600 a hyd at a chan gynnwys £101,000

16.0%

Dros £101,000 a hyd at a chan gynnwys £121,200

16.5%

Dros £121,200

 

17.0%

 

Tâl pensiynadwy

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017 (canran o’r tâl pensiynadwy)

Hyd at a chan gynnwys £15,301

 

11.0%

Dros £15,301 a hyd at a chan gynnwys £21,422

12.2%

Dros £21,422 a hyd at a chan gynnwys £30,603

14.2%

Dros £30,603 a hyd at a chan gynnwys £40,804

14.7%

Dros £40,804 a hyd at a chan gynnwys £51,005

15.2%

Dros £51,005 a hyd at a chan gynnwys £61,206

15.5%

Dros £61,206 a hyd at a chan gynnwys £102,010

16.0%

Dros £102,010 a hyd at a chan gynnwys £122,412

16.5%

Dros £122,412

 

17.0%

 

Tâl pensiynadwy

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 (canran o’r tâl pensiynadwy)

Hyd at a chan gynnwys £15,454

 

11.0%

Dros £15,454 a hyd at a chan gynnwys £21,636

12.2%

Dros £21,636 a hyd at a chan gynnwys £30,909

14.2%

Dros £30,909 a hyd at a chan gynnwys £41,212

14.7%

Dros £41,212 a hyd at a chan gynnwys £51,515

15.2%

Dros £51,515 a hyd at a chan gynnwys £61,818

15.5%

Dros £61,818 a hyd at a chan gynnwys £103,030

16.0%

Dros £103,030 a hyd at a chan gynnwys £123,636

16.5%

Dros £123,636

 

17.0%

 

Tâl pensiynadwy

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2018 (canran o’r tâl pensiynadwy)

Hyd at a chan gynnwys £15,609

 

11.0%

Dros £15,609 a hyd at a chan gynnwys £21,852

12.2%

Dros £21,852 a hyd at a chan gynnwys £31,218

14.2%

Dros £31,218 a hyd at a chan gynnwys £41,624

14.7%

Dros £41,624 a hyd at a chan gynnwys £52,030

15.2%

Dros £52,030 a hyd at a chan gynnwys £62,436

15.5%

Dros £62,436 a hyd at a chan gynnwys £104,060

16.0%

Dros £104,060 a hyd at a chan gynnwys £124,872

16.5%

Dros £124,872

 

17.0%”.

 



([1])           2004 p. 21. Mae’r pwerau a roddir gan adrannau 34 a 60 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Cyn hynny roeddent wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 62 o’r Ddeddf honno. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd y pwerau i Weinidogion Cymru.  Diwygiwyd adran 34 gan baragraff 27 o Atodlen 8 i Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (p. 25).

([2])           Gweler adran 34(3) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21). Caiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon gymryd effaith o ddyddiad cynharach na’r dyddiad y gwneir y gorchymyn.

([3])           O.S. 2007/1073 (Cy. 111) a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/3256 (Cy. 331).

([4])           O.S. 2007/1072 (Cy. 110) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2009/1225 (Cy. 108), 2010/234, 2012/972 (Cy. 127), 2013/735 (Cy. 87), 2013/1577 (Cy. 145), 2014/523 (Cy .64) a 2014/3254 (Cy. 330).

([5])           O.S. 2015/622 (Cy. 50).

([6])           Gweler adran 10(2) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (p. 25).

([7])           Mewnosodwyd rheol G2A gan O.S. 2004/1912 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1672 (Cy. 160).

([8])           Gweler adran 10 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (p. 25) ar gyfer ystyr “state pension age”.

([9])           O.S. 2015/622 (Cy. 50).